Mapiau Adweitheg

Dwi’n falch iawn o fod yn rhan o ddatblygiad cyffrous o fewn y byd adweitheg, sef y Map Adweitheg gyntaf erioed drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwi ac Anwen Thomas (Troedio Cymru) yn adweithegwyr sydd yn gweithio yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hardaloedd Gogledd Sir Gâr a Gwynedd. Wrth siarad am ein gwaith fel adweithegwyr ac ein brwdfrydedd i ledaenu gwybodaeth amdano drwy gyfrwng y Gymraeg nid oeddem yn gallu darganfod map Adweitheg yn y Gymraeg. Ar ôl misoedd yn gweithio ar y mapiau, rydym wedi creu’r Mapiau Adweitheg, credwn mai hwn yw’r map cyntaf o fath yn y Gymraeg.

Rydym wedi ein syfrdanu gyda’r gefnogaeth rydym wedi derbyn gan bawb, ac felly gan fod galw, rydym am gynnig y Mapiau Adweitheg i’w brynu.  Am fwy o wybodaeth, ac i brynu copi cysylltwch â minnau gwybodaeth@adweithegsianelen.cymru neu Anwen Info@troedio.cymru

Is this your new site? Log in to activate admin features and dismiss this message
Log In