
Mae adweitheg yn therapi cyflenwol sydd wedi bodoli ers yr hen oesoedd. Mae’n driniaeth anfewnwthiol a’r traed sy’n cael eu trin gan amlaf, er y gellir perfformio adweitheg ar y traed, y dwylo, yr wyneb neu’r clustiau. Fodd bynnag, dim ond y traed a’r dwylo yr wyf i’n eu trin.
Gan ddefnyddio’r dwylo, mae gwahanol fannau neu atgyrch y traed neu’r dwylo yn cael eu cyffwrdd er mwyn hybu lles a chydbwysedd o fewn y corff. Mae’r corff wedi’i fapio ar y dwylo a’r traed fel y bydd gwahanol fannau ar y traed yn cyfateb i wahanol rannau o’r corff.
Mae adweitheg yn gwbl anfewnwthiol ac nid yw’n disodli meddygaeth fodern. Fodd bynnag, gall y therapi weithio’n dda iawn ochr yn ochr â gofal meddygol confensiynol, drwy ganiatáu i’r corff ailgydbwyso a hybu lles meddyliol a chorfforol fel ei gilydd.
Am ragor o wybodaeth am adweitheg, cliciwch yma.
A yw adweitheg yn addas i mi?
Mae adweitheg yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, gall oedolion, plant, babanod, a phobl o bob oedran elwa o’r therapi effeithiol ac ymlaciol hwn. Cynhelir ymgynghoriad meddygol a ffordd o fyw trylwyr ymlaen llaw i benderfynu beth yw eich anghenion. Mae adweitheg yn therapi personol iawn, a bydd y driniaeth yn cael ei theilwra’n benodol i’ch anghenion. Mae pob troed yn wahanol, ac ni fydd triniaethau byth yr un fath, gan eu bod wedi’u teilwra i anghenion y cleient ar yr adeg benodol honno.
Beth sy’n digwydd yn ystod triniaeth?
Bydd eich apwyntiad cyntaf yn cymryd ychydig mwy o amser, gan y byddaf yn cynnal ymgynghoriad meddygol a ffordd o fyw llawn. Bydd hyn yn rhoi darlun llawn i mi o’ch anghenion, a mewn adweitheg, ein nod yw edrych ar bob agwedd, felly yn hytrach na chanolbwyntio ar un broblem, rydym ni’n edrych arnoch chi a’ch ffordd o fyw fel pecyn cyfan.
Yn yr apwyntiad, gofynnir i chi dynnu eich esgidiau a’ch sanau wrth weithio ar y traed, cyn eistedd ac ymlacio mewn cadair ogwyddol. Wedi eich lapio mewn blancedi cyfforddus, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymlacio wrth i mi weithio o amgylch eich traed neu ddwylo gan roi pwysau ar fannau penodol er mwyn ysgogi unrhyw atgyrch sy’n teimlo’n anghytbwys. Mae sesiwn fel arfer yn para rhwng 45 munud i awr, ac erbyn y diwedd byddwch wedi ymlacio’n llwyr.
Felly beth am roi cynnig arni?……

