
Helo, Siân, ydw i, Adweithegydd Clinigol yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin.
Rwy’n fam i 3 o blant annwyl (gan amlaf), ac rwy’n byw gyda fy ngŵr ar fferm ei deulu yn Ffarmers, Gogledd Sir Gaerfyrddin. Roeddwn yn agosáu at 40, yn wraig tŷ oedd yn arfer dysgu disgyblion ôl 16 pan benderfynais ei bod yn bryd newid cyfeiriad. Penderfynais ailhyfforddi fel adweithegydd, a chymhwysais yn 2019.
Rwy’n gweithio o fy ystafell driniaeth yn y ffermdy yn ogystal â chynnig gwasanaeth symudol (yn dibynnu ar y pellter). Rwy’n trin oedolion a phlant, ac mae gennyf brofiad o drin pobl sy’n byw gyda gorbryder, iselder, canser, problemau cyhyr-ysgerbydol, problemau mislif yn ogystal â gweithio gyda mamau beichiog.
Pam wnes i ddewis Adweitheg?
Datblygais fy mrwdfrydedd am adweitheg am y tro cyntaf pan oeddwn yn fy ugeiniau cynnar. Treuliais nifer o fisoedd yn teithio o amgylch De Ddwyrain Asia. Cefais fy synnu gan y patrymau oedd i’w gweld yn aml ar draed cerfluniau Bwdhaidd, ac ar ôl profi’r driniaeth am y tro cyntaf, gan ymlacio’n hamddenol yn edrych dros draeth Thai, sbardunwyd fy niddordeb yn yr ymarfer!
Ers hynny rwyf wedi cael nifer o driniaethau ac wedi teimlo’r effeithiau cadarnhaol y gall adweitheg eu cael ar y corff. Cefais sesiynau adweitheg yn ystod pob un o’r tri beichiogrwydd, ac roedd yn bendant yn gwneud i mi deimlo’n well.
Gwybodaeth Broffesiynol
Wrth ystyried newid cyfeiriad yn fy mywyd, meddyliais o ddifrif beth oeddwn yn ei fwynhau, beth oedd gen i ddiddordeb ynddo a phenderfynais, beth am hyfforddi fel adweithegydd a rhoi cyfle i bobl eraill brofi’r therapi gwych hwn?
Enillais Ddiploma Lefel 3 VTCT mewn Adweitheg, gyda Theilyngdod am fy ngwaith gan Ysgol Therapïau Cyflenwol West Shires yng Nghaerfyrddin.
Ers cymhwyso, dwi wedi ymgymryd â sawl cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Dwi’n mwynhau dysgu technegau newydd a fydd yn caniatáu i mi gefnogi fy nghleientiaid ymhellach ac yn meddwl bod lle bob amser am fwy o wybodaeth a gwelliant..
Rwy’n aelod llawn o Gymdeithas yr Adweithegwyr (MAR). Mae’r llythrennau MAR yn arwydd fy mod wedi cyrraedd safonau llymaf Cymdeithas yr Adweithegwyr. Mae hefyd yn golygu y byddaf yn ceisio gwella a datblygu fy sgiliau’n barhaus. Mae rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas yr Adweithegwyr ar gael yma

