Rwy’n cynnig triniaethau adweitheg clinigol o fy ystafell driniaeth, yn ogystal â gwasanaeth symudol (am gost ychwanegol). Rwyf wedi cael hyfforddiant mamolaeth lefel uwch, a phrofiad o drin pobl o bob oed.

Adweitheg Clinigol
Mae adweitheg clinigol wedi’i deilwra i’ch anghenion penodol a phersonol. Y nod yw hybu lles ac annog y corff i gyflawni homeostasis.
Gall adweitheg weithio’n dda iawn ochr yn ochr â meddygaeth fodern, i helpu’r corff i fod yn iach.

Y Menopos
Triniaethau wedi’u teilwra i’ch cefnogi trwy’r perimenopos a’r menopos. Gall straen yn aml waethygu symptomau ac mae adweitheg yn cael effaith ymlaciol, gan helpu i leihau straen. Gall hefyd helpu i gydbwyso hormonau’r corff. Boed yn bwl o wres, anhunedd (insomnia), cur pen, neu symptomau eraill, beth am roi cynnig ar adweitheg a phrofi ei fuddion?

Gwasanaeth Symudol
Gwasanaeth symudol ar gael yn eich cartref eich hun.
Os ydych chi’n cael trafferth cyrraedd fy ystafell driniaeth neu os hoffech gael triniaeth yng nghysur eich cartref eich hun, rwy’n cynnig gwasanaeth symudol o fewn 10 milltir.

OrthoPody
Techneg adweitheg glinigol yw OrthoPody a ddatblygwyd gan Annie Trigg a Sue Alma Evans, sydd hefyd yn awduron y llyfr The PodyCharts. Trwy fapio pob cyhyr unigol yn fanwl yn ogystal â’r ffasgia ar y traed, mae technegau OrthoPody yn blaenoriaethu ail-gydbwyso’r system gyhyrysgerbydol trwy gadwyni cyhyrau a ffasgia a nodir. Mae’n fy ngalluogi i nodi cyhyrau penodol ar y droed, gan arwain at driniaeth wedi’i thargedu. Dyma un o’m hoff dechnegau a dwi wedi cael canlyniadau gwych yn ei ddefnyddio gyda chleientiaid sydd â phroblemau cefn, gwddf, ysgwydd a symudedd.

Adweitheg Mamolaeth
Triniaethau mamolaeth arbenigol ar gyfer ymlacio a hybu iechyd yn ystod beichiogrwydd.
Rwyf wedi cael hyfforddiant mamolaeth uwch drwy Sally Earlam. Mae adweitheg yn broses sy’n ymlacio’r corff a gall helpu i leddfu dolur a phoenau a ddaw yn sgil beichiogrwydd.

Adweitheg Wyneb
Mae Adweitheg Wyneb Dull Bergman yn mynd ag adweitheg i lefel arall! Mae’n driniaeth ysgafn i’r wyneb, sy’n ymlaciol iawn, ac mae hefyd yn cynnig holl fuddion sesiwn adweitheg. Mae ganddo hefyd y fantais ychwanegol o gynyddu llif y gwaed i’r wyneb a lleihau tensiwn a straen yn y cyhyrau a all wella golwg a theimlad eich croen. Mae cleientiaid bob amser yn mwynhau eu hadweitheg wyneb ac yn aml yn ymlacio’n ddwfn. Mae rhai hyd yn oed yn cyfuno adweitheg wyneb a thraed i gael buddion llawn y ddau.






